Polisi Cymru

Tîm polisi a materion cyhoeddus Cymru

Read this page in English.

Wedi’i rymuso gan arbenigedd aelodau, mae tîm Polisi a Materion Cyhoeddus RCSLT Cymru yn anelu i sicrhau sedd i chi wrth y bwrdd uchaf, yn dylanwadu ar Weinidogion Llywodraeth Cymru, Aelodau o’r Senedd a gweision sifil.

Rydym yn meithrin perthynas gydag Aelodau o’r Senedd, Llywodraeth Cymru a sefydliadau allweddol i newid deddfwriaeth a pholisi.

Ymgyrchwn dros fywydau gwell ar gyfer pobl sydd ag anghenion cyfathrebu a llyncu, yn cynnwys gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth a sefydliadau defnyddwyr gwasanaeth.

Cefnogwn chi i ddylanwadu’n lleol, gan roi cyngor strategol ac adnoddau ymarferol i chi.

  • Pippa Cotterill – Pennaeth Swyddfa Cymru (dyddiau gwaith – dyddiau Llun)
  • Caroline Walters – Rheolwr Materion Allanol (dyddiau gwaith – dyddiau Llun, Mawrth, Mercher a Gwener)
  • Naila Noori – Swyddog Materion Allanol (dyddiau gwaith – dyddiau Llun i Iau)

Cysylltwch â ni

3ydd llawr, Tŷ Trafnidiaeth, 1 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9SB

Ffôn:

Caroline Walters – 029 2002 5585

Naila Noori – 029 2002 5583

E-bost: walesoffice@rcslt.org.uk

Dilynwch @RCSLTWales a @RCSLTpolicy ar Twitter i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf.

Blaenoriaethau ein swyddfa

Ein blaenoriaethau ar gyfer 2024-25:

  • Paratoi ar gyfer Etholiadau’r Senedd yn 2026
  • Gweithlu gan gynnwys ehangu mynediad i’r proffesiwn
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Gofal yn nes at y Cartref
  • Cyfiawnder ieuenctid a’r agenda ataliol
  • Communication Access UK – Fersiwn Gymraeg
  • Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Cyfleoedd i ymgysylltu

Yn galw pob Therapydd, Cynorthwywyr a Myfyrwyr Lleferydd ac Iaith yng Nghymru!

A oes gennych chi unrhyw gwestiynau am RCSLT a’i waith yng Nghymru? Byddwn yn cynnal sesiwn galw-heibio rithiol ddydd Llun 17 Chwefror am 8pm. Bydd hwn yn gyfle anffurfiol iawn i gwrdd â thîm RCSLT Cymru, gofyn unrhyw gwestiynau i ni, cael gwybodaeth am gyfleoedd i ymgysylltu a’r gefnogaeth sydd ar gael i’n haelodau.

Anfonwch e-bost at naila.noori@rcslt.org os gwelwch yn dda i gadarnhau os gallwch fod yn bresennol.

Anfonir manylion pellach yn nes at ddyddiad y sesiwn galw-heibio rithiol i’r rhai a hoffai fynychu.

Mae RCSLT Cymru angen eich help i ddathlu ein pen-blwydd yn 80 oed!

Wrth i ni baratoi i ddathlu pen-blwydd y RCSLT yn 80 oed ym mis Ionawr, rydym angen eich help! A oes gennych chi stori gadarnhaol i’w rhannu am eich gwaith fel therapydd neu gynorthwyydd lleferydd ac iaith? A oes gennych stori sy’n ysbrydoli am sut y daethoch i’r proffesiwn? A oes teulu o therapyddion lleferydd ac iaith yn gweithio rywle yng Nghymru? A oes gennych arwr tawel o fewn eich tîm? Ai chi yw’r therapydd lleferydd ac iaith hiraf eich gwasanaeth yng Nghymru? Rydym eisiau clywed gennych!

Anfonwch e-bost at wales@rcslt.org.uk  os gwelwch yn dda os oes gennych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod stori sy’n ysbrydoli y gallwn ei rhannu fel rhan o’n blwyddyn ddathlu. Rydym eisiau rhoi sylw i’r gwaith wych a gafodd ei wneud yma yng Nghymru drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â pharatoi astudiaethau achos o rai ohonynt y gallem hyd yn oed eu rhannu gyda newyddiadurwyr teledu a radio. Byddai’n wych os oes gennych luniau a/neu gynnwys fideo a, ond peidiwch â phoeni os nad os yw hynny gennych gan y gallwn eich cefnogi gyda’r agwedd yma. Nid yw ein gwaith yng Nghymru byth yn gorffen, a rydym eisiau defnyddio’r 80fed pen-blwydd fel cyfle i rannu’r holl waith da sy’n digwydd, yn ogystal â galw am gynnydd cyson mewn lleoedd hyfforddi a buddsoddi mewn swyddi i wella cefnogaeth ar gyfer pobl gydag anawsterau cyfathrebu a llyncu. Nid oes unrhyw orfodaeth neu ymrwymiad gydag unrhyw ran o’r uchod, felly gofynnwn i chi anfon e-bost atom gydag unrhyw straeon neu hanesion yn y lle cyntaf, a byddwn yn trafod unrhyw ddefnydd posibl o hynny gyda chi yn fanwl cyn cyhoeddi unrhyw beth. Diolch yn fawr.

Canfyddwch ffyrdd eraill i ymgysylltu gyda’r RCSLT yn ehangach ar y dudalen cymryd rhan.

Ymatebion a phapurau gwybodaeth

Read this page in English.

Plant a phobl ifanc

Dlodi plant
Newyddenedigol
Anhwylder Datblygu Iaith
Blynyddoedd cynnar
Plant sy’n derbyn gofal
Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Gwasanaethau Niwroddatblygiadol
Iechyd meddwl cymdeithasol emosiynol
Cyfiawnder

Oedolion

Dementia
Cyflogaeth
Iechyd meddwl
Gweithlu

Polisi cyffredinol iechyd a gofal cymdeithasol

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Taflenni ffeithiau RCSLT Cymru

Communication Access UK (CAUK)

Mae Communication Access UK yn gynllun a ddatblygwyd mewn partneriaeth gan elusennau a sefydliadau sy’n rhannu gweledigaeth i wella bywydau pobl sydd ag anawsterau cyfathrebu. Dan arweiniad y Coleg Brenhinol Therapyddion Lleferydd ac Iaith, gyda’n gilydd rydym wedi datblygu Symbol Mynediad Cyfathrebu, symbol mynediad anabledd newydd gyda phecyn hyfforddiant a safonau hollol rad ac am ddim. Gobeithiwn y bydd hyn yn helpu unigolion a busnesau neu sefydliadau i roi cefnogaeth well i bobl gydag anawsterau cyfathrebu.

Mae CAUK yn flaenoriaeth i’n swyddfa. Mae ein ffocws ar hyn o bryd ar fersiwn Cymraeg o’r cynllun. .

Ar bwy ddylwn i geisio dylanwadu yng Nghymru?

Read this page in English.

Mae’r rhanddeiliaid allanol yng Nghymru y gallwch geisio dylanwadu arnynt yn cynnwys:

Adnoddau

1  of  3