Mae therapi lleferydd ac iaith yn broffesiwn cyffrous a hyblyg gyda llawer o lwybrau gyrfa a meysydd clinigol. Edrychwch os y gallai fod yr yrfa iawn i chi.
Byddwch yn cael cyfle i weithio gyda phobl o bob oed sydd ag anawsterau cyfathrebu a llyncu. P’un ai yw hynny yn helpu oedolyn a gafodd strôc i ddechrau siarad eto, neu helpu babanod a anwyd yn gynnar gyda phroblemau bwydo a llyncu, mae therapyddion lleferydd ac iaith yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’r bobl y gweithiant gyda nhw. Yn ystod pandemig COVID-19, bu gan therapyddion lleferydd ac iaith rôl hanfodol mewn adsefydlu a chefnogi cleifion a fu â COVID-19. Dysgwch fwy am rôl therapyddion lleferydd ac iaith yn ystod y pandemig.
Gweithio gyda phlant a phobl ifanc
Gallech gefnogi plant a phobl ifanc gyda:
|
|
Hoffech chi wybod mwy am waith therapyddion lleferydd ac iaith pediatrig? Edrychwch ar y fideo hwn am Lucy, myfyriwr therapi lleferydd ac iaith, a’r straeon fideo hyn gan Vanessa a Shafaq.
Gweithio gydag oedolion
Gallech gefnogi oedolion gyda:
|
|
Hoffech chi wybod mwy am waith therapyddion lleferydd ac iaith oedolion? Edrychwch ar y fideo hwn am Claire, therapydd lleferydd ac iaith yn gweithio mewn ysbyty, ac edrych ar y straeon fideo hyn gan Ilyeh a Jackie.
Gallech hyd yn oed fynd ymlaen i ddod yn ddarlithydd prifysgol.
Hoffech chi wybod am lwybr gyrfa academaidd? Edrychwch ar stori fideo Sean, a chlywed gan y tîm cwrs therapi lleferydd ac iaith ym Mhrifysgol Leeds Beckett pam y dymunent ddod yn therapyddion lleferydd ac iaith.
Lle mae therapyddion lleferydd ac iaith yn gweithio?
Nid oes y fath beth â diwrnod nodweddiadol ar gyfer therapydd lleferydd ac iaith. Gallech weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaeth neu fel ymarferydd preifat mewn nifer fawr o leoliadau, tebyg i:
|
|
Mae amrywiaeth eang o rolau y gallech eu gwneud yn y lleoliadau hyn. Gallech:
- Helpu claf a gafodd strôc i ddechrau siarad eto
- Helpu babi sy’n cael trafferth bwydo i ddysgu sut i lyncu.
- Helpu person gyda chlefyd niwron motor i siarad drwy offer cymorth cyfathrebu.
- Cefnogi teuluoedd i gyfathrebu gydag aelod o’r teulu a gafodd anaf trawmatig i’r ymennydd.
- Helpu rhywun gyda chyflwr iechyd meddwl fel sgitsoffrenia i ddeall beth sy’n digwydd iddynt.
- Asesu a chefnogi troseddwr ifanc i gael mynediad i therapïau siarad i ddatblygu eu dealltwriaeth o’r system cyfiawnder.
- Darparu hyfforddiant i staff mewn cartref preswyl i gefnogi cyfathrebu mewn unigolion gydag anabledd dysgu.
- Cefnogi rhywun aneiriol wrth wneud dewisiadau ystyrlon sy’n effeithio ar eu bywydau, o benderfynu beth maent eisiau ei wisgo i ble maent eisiau mynd
- Helpu person ifanc gydag awtistiaeth i ddatblygu’r sgiliau i ffurfio cyfeillgarwch yn yr ysgol.
Eisiau gwybod mwy am ddiwrnod ym mywyd therapydd lleferydd ac iaith?
Edrychwch ar y ffilm realaeth rithiol gan Health Education England (HEE). Wedi’i greu gyda mewnbwn gan therapyddion lleferydd ac iaith a’r RCSLT, mae’r fideo yn rhoi sylw i ystod dda o leoliadau a defnyddwyr gwasanaeth i roi cipolwg byw ar y proffesiwn. Cafodd ei ffilmio cyn a hefyd yn ystod pandemig COVID-19.
Gellir gweld y fideo gyda neu heb glustffonau realaeth rithiol.
Os oes gennych ychydig mwy o amser, edrychwch ar y drafodaeth panel ar yrfa mewn therapi lleferydd ac iaith
Yn dal heb fod yn siŵr fod therapi lleferydd ac iaith ar eich cyfer chi?
Gofynnwch i chi’ch hunan os ydych yn mwynhau:
- Gweithio gyda phobl o bob oed ac o bob cefndir
- Dod â gwyddoniaeth, addysg, gwyddorau cymdeithasol, ieithoedd, ieithyddiaeth a meddygaeth ynghyd
- Gweithio fel rhan o dîm
- Gwrando a chyfathrebu gyda phobl
- Datrys problemau
- Bod yn gyfrifol ac atebol am eich gwaith
- Dysgu pethau newydd drwy’r amser a bod yn greadigol
- Arwain tîm
Os gwnaethoch ateb ‘ydw’ i unrhyw un o’r uchod, gallai therapi lleferydd ac iaith fod i’r dim i chi.
Ymchwilio llwybrau i therapi lleferydd ac iaith
Graddau prifysgol
Canfod sut i astudio cwrs mewn prifysgol
Prentisiaethau
Canfod os yw prentisiaeth yn iawn i chi
Gwneud cais am radd
Canfod ein cynghorion ar wneud cais i brifysgol