Trosolwg Therapi Lleferydd ac Iaith – Cymraeg
Beth yw therapi lleferydd ac iaith?
- Mae’r fideo hwn hefyd ar gael yn Saesneg, gweler fersiwn Saesneg y dudalen hon
Mae therapi lleferydd ac iaith yn darparu triniaeth, cymorth a gofal ar gyfer plant ac oedolion sydd ag anawsterau gyda chyfathrebu, neu gyda bwyta, yfed a llyncu.
Mae therapyddion lleferydd ac iaith yn weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. Maent yn gweithio gyda rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill, tebyg i athrawon, nyrsys, therapyddion galwedigaethol a meddygon.
Ar hyn o bryd mae tua 20,000 o therapyddion lleferydd ac iaith yn gweithio yn y Deyrnas Unedig mewn amrywiaeth o leoliadau.
- Lawrlwytho ein Dalen ffeithiau Beth yw therapi lleferydd ac iaith? (PDF).
Mae therapyddion lleferydd ac iaith yn cynnig triniaeth, cymorth a gofal ar gyfer pobl o bob oed sydd ag anawsterau gyda lleferydd, iaith, cyfathrebu, bwyta, yfed a llyncu. Gan ddefnyddio sgiliau arbenigol, maent yn gweithio’n uniongyrchol gyda chleientiaid a’u gofalwyr i asesu, trin a rhoi cymorth wedi ei deilwra.
Maent hefyd yn gweithio’n agos gydag athrawon a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, tebyg i feddygon, nyrsys, gweithwyr proffesiynol eraill perthynol i iechyd a seicolegwyr i ddatblygu rhaglenni triniaeth unigol.
Os hoffech wybod mwy am ddechrau gyrfa mewn therapi lleferydd ac iaith, edrychwch ar ein adran ar ddod yn therapydd lleferydd ac iaith.
Gyda pwy mae therapyddion lleferydd ac iaith yn gweithio?
Mae therapyddion lleferydd ac iaith yn gweithio gyda phobl o bob oed gydag amrywiaeth o anawsterau cyfathrebu, bwyta neu lyncu. Gweithiant gyda phobl ar wahanol gyfnodau o’u bywyd, am resymau lluosog yn dibynnu ar eu hanghenion. Gall rhai pobl fod angen therapi cymorth therapi lleferydd ac iaith ar sawl cyfnod yn eu bywyd am wahanol resymau, weithiau heb gysylltiad rhyngddynt.
Babanod a phlant ifanc
Mae therapyddion lleferydd ac iaith yn gweithio gyda babanod gydag anawsterau bwydo a llyncu. Gallant fod mewn lleoliadau gofal newydd-anedig, neu fel rhan o wasanaethau iechyd a chymorth eraill. Byddant yn gweithio gyda theuluoedd i gefnogi babanod sydd naill mewn risg o gael trafferth gyda neu sydd eisoes yn cael trafferth gyda:
- bwydo
- llyncu
- a chyfathrebu (yn cynnwys datblygiad iaith)
fel y gallant gael triniaeth a chymorth priodol.
Plant
Bydd therapyddion lleferydd ac iaith sy’n gweithio gyda phlant yn eu cefnogi gydag amrywiaeth o gyflyrau sy’n gysylltiedig ag anawsterau cyfathrebu, lleferydd, bwyta, yfed a llyncu.
Gall fod llawer o amrywiaeth yn y cyflyrau hyn a gallant ddigwydd mewn cyfuniadau. Mae rhai enghreifftiau o gyflyrau neu anawsterau yn cynnwys:
- Taflod hollt
- Dyslecsia
- Anawsterau dysgu – ysgafn, canolig neu ddifrifol
- Anableddau corfforol
- Mudandod dethol
- Anawsterau penodol yn gwneud synau
Oedolion
Gall therapyddion lleferydd ac iaith helpu oedolion sydd â phroblemau cyfathrebu neu fwyta a llyncu, yn cynnwys rhai sydd fel canlyniad i amhariadau niwrolegol a chyflyrau dirywiol. Er enghraifft, gall pobl sy’n byw gydag un neu fwy o’r cyflyrau canlynol dderbyn cymorth gyda lleferydd
- Strôc
- Anaf i’r ymennydd
- Clefyd Parkinson
- Dementia
- Canser y pen a’r gwddf
- Byddardod
- Anableddau dysgu
- Covid hir
- Iechyd meddwl (oedolion)
- Anableddau corfforol
- Atal dweud
- Llais
Edrychwch ar ein A-Z gwybodaeth glinigol i gael gwybodaeth ar gyflyrau eraill neu sefyllfaoedd lle gallai therapi lleferydd ac iaith roi cymorth.
Os hoffech ganfod mwy am sut i gael mynediad i therapi lleferydd ac iaith, darllenwch Sut i ganfod therapydd lleferydd ac iaith
Ble mae therapyddion lleferydd yn gweithio?
Mae therapyddion lleferydd ac iaith yn gweithio mewn pob math o leoliad yn cynnwys:
- Ysbytai (mewn gofal argyfwng), gofal aciwt a chleifion allanol)
- Addysg (h.y. ysgolion, meithrinfeydd ac yn y blaen)
- Cyfiawnder (h.y. carchardai ac unedau diogel)
- Gwasanaethau plant (h.y. canolfannau datblygu plant)
- Cartrefi gofal
- Eu busnes therapi lleferydd ac iaith eu hunain
- Canolfannau dydd ar gyfer pobl gydag anawsterau dysgu
- Clinigau cymunedol
- Cartrefi cleientiaid
Mae therapyddion lleferydd ac iaith yn y Deyrnas Unedig yn gweithio i’r GIG neu fel therapydd lleferydd a iaith annibynnol/preifat. Gallant weithio fel ymarferwyr ar eu pen eu hunain, mewn timau aml-ddisgyblaeth (lle gallent fod yr unig therapydd lleferydd ac iaith) neu fel rhan o dîm therapi lleferydd ac iaith.
Gweithio fel rhan o’r GIG
Mae therapyddion lleferydd ac iaith o fewn y GIG i’w cael ym mhob lleoliad, o wardiau aciwt i oedolion i ddarparu gwasanaethau i blant mewn ysgolion lleol, o wasanaethau cyffredinol i leoliadau arbenigol iawn. Mae gwybodaeth am raddfeydd cyflog ar gael ar wefan gyrfaoedd GIG.
Ymchwil mewn Therapi Lleferydd ac Iaith
Mae therapi lleferydd ac iaith yn broffesiwn seiliedig ar ymchwil, gyda therapyddion lleferydd ac iaith yn cymryd dull seiliedig ar dystiolaeth i ymarfer.
Gall llawer o therapyddion ddewis cynnal ymchwil fel rhan o’u gyrfa, er enghraifft drwy astudio ar gyfer gradd meistr neu PhD, neu gallant ddefnyddio eu gwaith clinigol i ymchwilio cwestiynau ymchwil drwy gasglu data ar ddeilliannau cleifion/cleientiaid yn dilyn ymyriad neilltuol.
Bydd therapydd lleferydd ac iaith yn rhoi ystyriaeth i dystiolaeth ymchwil, ynghyd â dewisiadau claf/cleient neu aelod o’u teulu ar gyfer eu gofal a’u gwerthuso yng ngoleuni arbenigedd clinigol – dyma sylfaen ymarfer ar sail tystiolaeth .
Sut mae’r RCSLT yn cefnogi ymchwil
Mae’r RCSLT yn helpu therapyddion lleferydd ac iaith i gael mynediad i a deall y dystiolaeth ddiweddaraf a gorau am ffyrdd o weithio gyda phobl gydag anawsterau lleferydd, iaith, cyfathrebu a llyncu. Er enghraifft, chwe gwaith y flwyddyn mae ein cylchgrawn, yr International Journal of Language and Communication Disorders yn cyhoeddi’r ymchwil ddiweddaraf yn y meysydd hyn.
Rydym yn cynnal prosiect gosod blaenoriaethau ymchwil i adnabod y prif feysydd pwysicaf sydd angen ymchwil bellach mewn therapi lleferydd ac iaith fel y cytunwyd gan amrywiaeth o randdeiliaid, yn cynnwys pobl gydag anawsterau lleferydd, iaith, cyfathrebu a llyncu.
Gallwch weld ein blaenoriaethau ymchwil ar gyfer dysffagia, anableddau dysgu ac anhwylderau datblygu iaith.
Gweithwyr cymorth therapi lleferydd ac iaith
Mae’r gweithlu cymorth therapi lleferydd ac iaith yn rhan gyfannol o wasanaethau therapi lleferydd ac iaith. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ofyniad academaidd penodol er mwyn dod yn weithiwr cymorth, yn lle hynny bydd gofynion lleol ar gyfer y swyddi hyn.
Y ffordd orau i ganfod swyddi gweithwyr/cynorthwywyr o fewn y GIG yw edrych ar wefan swyddi GIG neu gysylltu’n uniongyrchol gyda gwasanaethau i holi am swyddi gwag.
Ewch i’n hyb gweithwyr cymorth i ddysgu mwy am y rôl, beth mae’n ei wneud a sut y gallwch ddod yn weithiwr cymorth.