RCSLT Wales launch report at Senedd event

14 January 2025

On 14 January 2025, RCSLT Wales held a celebratory event at the Senedd to mark the 80th anniversary of the RCSLT

Speech and language therapists (SLTs), charity partners, stakeholders from key areas and service users converged at the Senedd for a special celebratory event to mark 80 years of the RCSLT.

The event was sponsored by Jane Dodds MS, a keen advocate for speech and language therapy and the keynote address was delivered by Jeremy Miles MS, Cabinet Secretary for Health and Social Care.  The audience also heard from service user, Karen, who has verbal apraxia and were serenaded by the Cardiff and Vale Aphasia-Friendly Choir. Guests also enjoyed the first outing of the new exhibition showcasing SLTs from across the UK.

At the event, RCSLT Wales unveiled its landmark report on the state of speech and language therapy in Wales which was developed with the support of an advisory group of members.  The report represents an important opportunity to reflect on the diversity of the areas in which the profession is now working in Wales, to understand demand and the profile of our current workforce and set out our vision for the future.  Key messages include:

  • SLTs and SLTAs transform lives by supporting people of all ages from birth to end of life with swallowing and communication needs.
  • Speech and language therapy is a shortage profession as recognised by Welsh Government
  • Demand is growing. 33% average increase in number of people on waiting lists since 2019 plus demand from areas of unmet need e.g. justice, mental health
  • The need to see investment both in roles and sustained increases in student numbers as part of a more sophisticated approach to workforce planning.
  • Calls to see greater diversity in routes into the profession.
  • The need for a focus on retention of the existing workforce e.g. protected time for CPD, availability of advanced roles.

Pippa Cotterill, Head of Wales Office, said: “We were delighted that so many members and stakeholders were able to join us at the Senedd to mark our milestone anniversary and celebrate our wonderful profession.  We hope that our state of the nation report will have a lasting legacy, revealing the challenges and opportunities for speech and language therapy and offering a clear blueprint for the future.  We look forward to working with partners to deliver on the key recommendations.”

Read the State of the Nation report (Welsh version)

Read the State of the Nation report (English version)

Ar 14 Ionawr 2025, cynhaliodd Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith Cymru ddigwyddiad dathlu yn y Senedd i nodi 80 mlynedd ers sefydlu’r Coleg.

Daeth therapyddion lleferydd ac iaith, partneriaid elusennol, rhanddeiliaid o feysydd allweddol a defnyddwyr gwasanaeth ynghyd yn y Senedd ar gyfer digwyddiad dathlu arbennig i nodi 80 mlynedd o Goleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith.

Noddwyd y digwyddiad gan Jane Dodds AS, eiriolwr brwd dros therapi lleferydd ac iaith, a rhoddwyd y prif anerchiad gan Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.  Clywodd y gynulleidfa hefyd gan un o ddefnyddwyr y gwasanaeth, Karen, sydd ag apracsia lleferydd ac fe’u swynwyd gan y Côr Affasia-Gyfeillgar Cymunedol.  Mwynhaodd y gwesteion hefyd ymddangosiad cyntaf yr arddangosfa newydd sy’n rhoi llwyfan i therapyddion lleferydd ac iaith o bob rhan o’r DU.

Yn y digwyddiad, lansiodd RCSLT Cymru ei adroddiad pwysig ar gyflwr therapi lleferydd ac iaith yng Nghymru a ddatblygwyd gyda chefnogaeth grŵp cynghori o blith yr aelodau.  Mae’r adroddiad yn gyfle pwysig i fyfyrio ar amrywiaeth y meysydd y mae’r proffesiwn bellach yn gweithio ynddynt yng Nghymru, i ddeall y galw a phroffil ein gweithlu presennol a nodi ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.  Gallwch weld yr adroddiad yma.  Mae’r prif negeseuon yn cynnwys y canlynol;

  • Mae Therapyddion Lleferydd ac Iaith a Chynorthwywyr Therapi Lleferydd ac Iaith yn trawsnewid bywydau drwy gefnogi pobl o bob oed, o’r crud i ddiwedd oes, gydag anghenion llyncu a chyfathrebu.
  • Mae therapi lleferydd ac iaith yn broffesiwn sy’n wynebu prinder fel y cydnabyddir gan Lywodraeth Cymru
  • Mae’r galw’n cynyddu. Mae cynnydd cyfartalog o 33% yn nifer y bobl sydd ar restrau aros ers 2019 yn ogystal â’r galw o feysydd o angen sydd heb eu diwallu, e.e. cyfiawnder, iechyd meddwl
  • Mae angen buddsoddiad mewn swyddi a chynnydd parhaus yn nifer y myfyrwyr fel rhan o ddull mwy soffistigedig o gynllunio’r gweithlu.
  • Mae galw i weld mwy o amrywiaeth mewn llwybrau i’r proffesiwn.
  • Mae angen am ffocws ar gadw’r gweithlu presennol e.e. amser gwarchodedig ar gyfer DPP, argaeledd rolau uwch.

Meddai Pennaeth Swyddfa Cymru, Pippa Cotterill: “Roeddem wrth ein bodd bod cynifer o aelodau a rhanddeiliaid wedi gallu ymuno â ni yn y Senedd i ddathlu ein pen-blwydd nodedig a’n proffesiwn gwych.  Gobeithiwn y bydd gan ein hadroddiad ar gyflwr y genedl waddol barhaol, gan ddatgelu’r heriau a’r cyfleoedd ar gyfer therapi lleferydd ac iaith a chynnig glasbrint clir ar gyfer y dyfodol.  Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’n partneriaid i gyflawni’r argymhellion allweddol.”